Grŵp Trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Dai

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

12-12.15pm 28 Ionawr 2015

Ystafell Gynadledda 21, Tŷ Hywel, Bae Caerdydd

 

 

Aelodau'r Cynulliad yn bresennol: Sandy Mewies, Jocelyn Davies, Peter Black, Rhodri Glyn, Joyce Watson, Mark Isherwood, Keith Davies

 

Eraill yn bresennol:


Keith Edwards (Ysgrifennydd)

Paul Mewies, cefnogaeth i'r Cadeirydd

Julie Nicholas, CIH Cymru

Helen Northmore, CIH Cymru

Sioned Hughes, Cartrefi Cymunedol

Auriol Miller, Cymorth Cymru

Ron Walton,  Fforwm 50+ y Fro

Ceri Cryer, Age Cymru

Alicja Zalesinska, Tai Pawb

Elle McNeil, Cyngor ar Bopeth Cymru

Derek Walker, Canolfan Cydweithredol Cymru

Steve Clarke, Tenantiaid Cymru

Nic Bliss, Conffederasiwn Tai Cydweithredol

Vera Brinkworth, Gofal a Thrwsio Cymru

Howard Lewis, cwmni cydweithredol 'Change Agents'

John Puzey, Shelter Cymru

Karen Wilkie, partneriaeth gydweithredol

Alex Bird, ymgynghoriaeth cydweithredol

 


 

Cofnodion

 

1.      Croeso: Croesawodd Sandy Mewies AC, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol, y rhai oedd yn bresennol.

 

2.      Ethol y Cadeirydd

Enwebwyd Sandy Mewies gan Jocelyn Davies; ni enwebwyd unrhyw un arall. Etholwyd Sandy Mewies yn Gadeirydd.

 

3.      Adroddiad Blynyddol: Cyflwynodd Keith Edwards gynnwys yr adroddiad i'r cyfarfod, gan ddiolch i Aelodau'r Cynulliad am eu cefnogaeth barhaus, yn ogystal â rhoi diolch i'r Cadeirydd am ei hymrwymiad i'r grŵp, ac i Paul Mewies am gydlynu yn y Cynulliad Cenedlaethol. Cymeradwyodd y grŵp yr adroddiad a'r datganiad ariannol. Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb o weithgareddau'r flwyddyn. Rhoddwyd ddiolch i Keith Edwards am ei waith yn darparu gwasanaethau ysgrifenyddol i'r grŵp dros nifer o flynyddoedd, ac am y gefnogaeth a gafwyd gan y grŵp Cartrefi i Gymru Gyfan. Dywedodd y Cadeirydd hefyd mai 2015/16 fyddai ei blwyddyn olaf fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, gan ei bod yn sefyll i lawr yn yr etholiad nesaf.

 

4.      Ethol swyddogion

Safodd Keith Edwards i lawr o'i rôl yn fel ysgrifenyddiaeth y grŵp trawsbleidol. Cynigiwyd trosglwyddo'r rôl cydlynol o Keith Edwards i Helen Northmore, cyfarwyddwr newydd CIH Cymru. Cytunodd y grŵp ac enwebwyd Helen Northmore yn ysgrifennydd y grŵp.

 

5.      Unrhyw fater arall: dim

 

6.      Diwedd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

 

Yn syth ar ôl Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol ar Dai, cynhaliwyd:

 

 

Cyfarfod ar y Cyd rhwng y

Grŵp Trawsbleidiol ar Dai a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Gwmnïau Cydweithredol

12.15-1.30pm, 28 Ionawr 2015

Ystafell Gynadledda 21, Tŷ Hywel, Bae Caerdydd

      

Cofnodion

 

1.      Croeso i'r cyfarfod ar y cyd - Croesawodd Sandy Mewies AC y sefydliadau sy'n gysylltiedig â mentrau cydweithredol i'r cyfarfod a gwahoddwyd Derek Walker i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect tai cydweithredol yng Nghymru.

 

2.      Y wyboodaeth ddiweddaraf am y Prosiect Tai Cydweithredol - Rhoddodd Dave Palmer, Nick Bliss a Derek Walker o Ganolfan Cydweithredol Cymru y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect presennol. Rhoddwyd crynodeb o'r gwaith cymunedol sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd o fewn yr ardaloedd prosiect arloesi, yr adnoddau sydd ar gael, yr ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru, a brwdfrydedd a chefnogaeth swyddogion. Cyfeiriwyd at y ddogfen Bringing Democracy Home.

 

Cwestiynau a sylwadau

a.      Mynegodd Joyce Watson AC ddymuniad i ddysgu mwy am y prosiect a sut y gallai'r model gysylltu â'r cyfleoedd adeiladu a chyflogaeth.

b.      Dywedodd Howard Lewis y gallai Cartrefi am Oes yn Llundain gael eu defnyddio o fewn egwyddorion y prosiect tai cydweithredol.

c.       Nododd Nick Bliss ei fod wedi'i blesio gan ddull a chynnydd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ymweliad diweddar â'r Wyddgrug.

d.      Nododd John Puzey y cefnogwyd tai cydweithredol o fewn maniffesto Cartrefi i Gymru Gyfan.

e.      Gofynnodd Sandy Mewies a ellid cymhwyso tai cydweithredol i'r ddarpariaeth o dai pobl hŷn, gan gynnwys ExtraCare.

f.        Nododd Mark Isherwood fod y Gynghrair Therapi Galwedigaethol hefyd yn arwain galwad ar gyfer integreiddio egwyddorion cartrefi gydol oes wrth ddatblygu tai.

g.      Nododd Nick Bliss fod datblygu gwahanol fodelau cydweithredol yn bwysig i gwrdd ag anghenion cymunedau lleol, ac i sicrhau cynwysoldeb cyfranogwyr. Dywedodd hefyd fod cefnogi cwmnïau cydweithredol i ddatblygu capasiti a datblygu sgiliau aelodau yn hanfodol i lwyddiant.

h.      Nododd Sioned Hughes fod llawer o aelodau CIC yn cymryd rhan weithredol yn y prosiectau ac y gallai datblygiadau ExtraCare cydweithredol fod yn hyfyw yn y dyfodol.

i.        Nododd Auriol Miller ei bod yn bwysig uno'r gwaith o ddatblygu tai â blaenoriaethau iechyd a gweithgarwch.

j.        Gofynnwyd i Alex Bird am ddiwygio prydles a dywedodd nad oedd unrhyw bolisi yng Nghymru o ran prynu prydlesi allan ar gyfer opsiynau rhydd-ddaliadol a hunan-reolaeth, gan gynnwys mentrau cydweithredol.

k.       Nododd Keith Edwards nad yw'r cynnwys Cartrefi Rhentu a rannwyd hyd yma yn delio â llesddeiliaid.

l.        Gofynnodd Sandy Mewies a oedd modd derbyn mwy o wybodaeth am hyn ac i roi hwn ar yr agenda fel eitem trafod ar gyfer cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Dai yn y dyfodol.

m.    Nododd Steve Clarke fod hwn yn fater ar gyfer nifer o grwpiau y mae Tenantiaid Cymru yn gweithio gyda hwy. Maent yn grwpiau a gafodd cyngor gwael yn ystod prosesau trosglwyddo stoc ac erbyn hyn roedd ystod o faterion i fynd i'r afael â hwy.

n.      Nododd John Puzey fod gan Shelter Cymru arbenigwyr a all ddarparu gwybodaeth.

o.      Nododd Elle McNeil fod Compare the Market wedi gwneud ymchwil ar reoleiddio a hawliau defnyddwyr a llesddeiliaid.

p.      Gofynnodd Alicja Zalesinska a oedd unrhyw enghreifftiau o brosiectau tai cydweithredol sy'n gweithio gyda grwpiau lleiafrifol

q.      Dywedodd Nick Bliss nad oedd yn gwybod am unrhyw brosiectau o'r fath, ond ei bod yn debygol y byddai rhai yn dod i'r amlwg.

r.       Cyfeiriodd Dave Palmer at y grŵp 'Vintage Green' yng Nghaerdydd, sef menter cydweithredol tai i fenywod hŷn.

 

Camau i'w cymryd:

·         Canolfan Gydweithredol Cymru i anfon gwybodaeth am brosiectau tai cydweithredol at Joyce Watson.

·         'Prydleswyr' i fod yn eitem ar agenda cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Dai yn y dyfodol.

·         Elle McNeil i anfon linc i ymchwil Compare the Market at y Grŵp Trawsbleidol ar Dai a Cartrefi i Cymru Gyfan.

 

 

 

3.      Cyflwyniad a thrafodaeth ar faniffesto Cartrefi i Cymru Gyfan

 

Cyflwynodd John Puzey o Shelter Cymru y maniffesto Cartrefi i Cymru Gyfan. Eglurodd bod nifer o aelodau wedi gweithio ar y ddogfen ac wedi ymrwymo iddi ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2016. Rhan annatod o'r ddogfen oedd y cysylltiadau rhwng tai a'r frwydr yn erbyn tlodi, hybu iechyd a lles a'r ffaith y dylid ystyried tai i fod yn agwedd allweddol ar seilwaith cenedlaethol. Gofynnodd Cartrefi i Cymru Gyfan i Aelodau'r Cynulliad sy'n rhan o'r Grŵp Trawsbleidiol ar Dai ystyried beth allent ei gefnogi o fewn y maniffesto a chymryd y maniffesto yn ôl i'w pleidiau.

 

Cwestiynau a sylwadau

 

a)      Awgrymodd Keith Edwards y gallai aelodau unigol o Cartrefi i Cymru Gyfan gyarfod ag aelodau unigol o'r Grŵp Trawsbleidiolar ar Dai i ddatblygu consensws ar y maniffesto.

b)      Nododd Sandy Mewies y byddai'n hapus i gyflwyno'r maniffesto i'w phlaid ei hun i gefnogi'r cynnwys a dangos sut y mae tai yn berthnsdol i sawl gweinidogaeth.

c)      Nododd Ron Walton ei bod yn bwysig deall sut y mae tai yn cefnogi cymunedau aml-genhedlaeth.

d)      Pwysleisiodd Sioned Hughes rôl tai fel seilwaith a phwysigrwydd negeseuon allweddol ynglŷn â chysylltiadau rhwng tai â'r economi a lles.

e)      Nododd Sandy Mewies y byddai'n sicrhau bod y maniffesto yn cael ei anfon at Brif Weinidog Cymru a Gweinidogion eraill, a bod hwn yn amser da gan fod yr holl bartïon yn edrych ar fanifestoes gwleidyddol ar hyn o bryd.

f)       Nododd Dave Palmer bod Canolfan Gydweithredol Cymru hefyd yn cefnogi maniffesto Cartrefi i Cymru Gyfan.

g)      Nododd Jocelle Lovell y byddai'n hoffi gweld mwy o ffocws ar y sector rhentu preifat yn y maniffesto.

h)      Awgrymodd Keith Edwards y gallai'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl a Chymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid gael eu gwahodd i ymuno â Cartrefi i Cymru Gyfan.

i)        Nododd John Puzey y bydd Cartrefi i Cymru Gyfan yn trafod ymestyn aelodaeth yn y cyfarfod nesaf.

j)        Nododd Ceri Cryer bod gwybodaeth am dai a dewis i bobl hŷn yn rhan bwysig o gynnig y sector, ac nid dim ond canolbwyntio ar ymyrryd mewn argyfyngau. Dywedodd fod polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn bwysig o ran mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â unigedd cymdeithasol mewn cymunedau.

 

 

Camau gweithredu

·         Aelodau'r Cynulliad i gysylltu â chadeirydd Cartrefi i Cymru Gyfan i drefnu cyfarfodydd unigol gyda chynrychiolwyr Cartrefi i Cymru Gyfan yn ôl y gofyn.

·         Sandy Mewies, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dai, i alw cyfarfod gyda Keith Edwards a Helen Northmore i gwblhau trosglwyddiad ysgrifenyddiaeth a chytuno ar gynnwys, dyddiad a lleoliad cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Dai.

 

4.      Cloi